Purple Ribbon Logo
Registered Charity
No: 1112708

Quick Links:
Support our Fundraising
click here
Help us to raise a £1million so that we can really make a difference. Thanks to your support we are well on the way to that target.

First Ever Pancreatic Cancer Awareness Week 16 - 22 Nov 2009
Get involved with our Purple Days campaign and help raise vital money for pancreatic cancer.
Find out more »

Charity Gala Concert 24 November 2009, London
includes Faure requiem. click for details
tickets still available.
Google
Search our site using Google
Pancreaticcancer.org.uk
The whole web

Symptomau ac Arwyddion Cancr y Pancreas

Gwybodaeth Gyffredinol

Mae’n anodd iawn darganfod cancr y pancreas gan fod y pancreas wedi’i leoli yn ddwfn o fewn y corff a’r symptomau’n amrywio yn dibynnu ar union leoliad y tiwmor yn y pancreas a pha gelloedd neu weithgarwch gan y pancreas sy wedi’i effeithio gan y tyfiant neu gancr.

Afiechyd ydy hwn, fel arfer, sy’n effeithio ar bobol canol oed ond a gall heyfd effeithio cleifion ifanc.

Er fod y ffurf mwyaf cyffredin o gancr y pancreas – pancreactic ductal adenocarcinoma - mor angheuol, mae ffurfiau eraill llawer prinach, e.e: tiwmor yr endocrin, sy’n gallu effeithio cleifion ifanc a sy’n ymateb yn well i lawdriniaeth neu cemotherapeg neu imiwnotherapi.

Yn anffodus yn aml nid oes symptomau cynnar o gwbl i’r cyflwr ac mae’r tiwmor wedi tyfu’n sylweddol cyn iddo achosi symptom cydnabyddedig.

Yn anffodus hefyd mae symptomau cancr y pancreas mor niwlog ac amhenodol rhaid cyflyrrau eraill llai difrifol yn gyntaf. Mae hyn yn golygu fod diagnosis yn cael ei arafu wrth edrych am hepatitis, cerrig bustl, IBS a straen.

Dyw pawb chwaith ddim yn cael pob symptom – mae’n dibynnu ar leoliad y tyfiant yn y pancreas. Er enghraifft, gall clefyd melyn fod yn arwydd cynnar o dyfiant ar ben y pancreas sy’n effeithio ar ddwythell y bustl (bile duct), a gall poen yn y cefn fod yn arwydd hwyr o dyfiant yng nghorff neu gynffon y pancreas, gan effeithio o bosib ar y nerfau a’r asgwrn cefn.

Gall clefyd melyn fod yn arwydd hwyr hefyd o dyfiant sydd wedi datblygu ymhell o ddwythell y bustl (bile duct) ond wedi tyfu nes iddo achosi rhwystr yn y ddwythell.

Gall symptomau CYNNAR gynnwys :

  • Teimlad annifyr neu boen o gwmpas y bol
  • Anhwylder
  • Coluddion yn gweithio’n wahanol
  • Clefyd siwgr
  • Clefyd melyn
  • Croen yn cosi

Symptomau HWYR :

  • DIm awydd bwyd
  • Colli pwysau
  • Poen yn y cefn
  • Iselder ysbryd

Deall y Symptomau

Mae’r pancreas yn helpu i dreulio bwyd ac yn cynhyrchu inswlin sy’n rheoli lefel y siwgr yn y gwaed. Mae wedi’i leoli tu ol i’r ystumog a r’un ffurf a penbwl.

Mae symptomau cancr y pancreas yn gallu bod yn amhenodol ac yn gyffredin i gyflyrrau eraill llai difrifol. Ond os mai cancr sy’n effeithio ar waith y pancreas gall achosi 2 broblem:

  • Diffyg amsugno bwyd, yn enwedig braster, sy’n arwain at golli pwysau a charthion gwelw, drewllyd a dolur rhydd.
  • Clefyd Siwgr os nad oes digon o inswlin yn cael ei greu.

Ar adeg y diagnosis mae tua 70% o gleifion gyda clefyd melyn efo rhwystr oherwydd fod tyfiant ym mhen y pancreas, sy’n tagu dwythell y bustl ( bile duct), ac felly ceir y symptomau arferol ( llygaid a chroen melyn, dwr (urine) tywyll, carthion gwelw, croen sy’n cosi ). Yn aml dyw’r clefyd melyn ddim yn boenus a does dim arwydd arall, a’r peth cynta i dynnu sylw’r claf ydy’r croen yn cosi, yr dwr yn tywyllu a’r croen yn dechrau melynu.( Y llygid yw’r peth amlwg cynta)

Ym mhen y pancreas mae’r tyfiant yn y rhan fwyaf o achosion a’r symptomau cynnar arferol ydyw -

  • Clefyd melyn a’r arwyddion cysylltiedig
  • Cyfog gwag
  • Colli ychydig o bwysau
  • Datblygu clefyd siwgr

Mae’n anoddach darganfod tyfiant yng nghorff a chynffon y pancreas am nad ydyn yn achosi clefyd melyn gyda rhwystr yn gynnar. Symptomau arferol hyn ydyw -

  • Poen o gwmpas y bol
  • Diffyg traul (indigestion)
  • Poen fel ulcer yn yr ystumog
  • Dolur rhydd ysbeidiol
  • Cyfog (nausea)
  • Colli pwysau heb achos
  • Datblygu clefyd y siwgr
  • Poen parhaol yn y cefn
  • Gwaed yn ceulo (clotio - venous thrombosis)

Er fod cysylltiad rhwng clefyd siwgr a cancr y pancreas, nid yw’r cysylltiad yn arferol. Ond mae’r cysylltiad yn cryfhau os daw’r clefyd melys yn sydyn ac annisgwyl ( heb hanes teuluol) ac os ydy’n digwydd i berson dros 50 mlwydd oed sydd ddim yn dew. Mae dadl wyddonol ynglyn a p’un ai clefyd siwgr sy’n achosi cancr y pancreas neu ai arwydd ydyw o rywbeth o’i le ar y pancreas – hy: y cancr yn effeithio ar gynhyrchu’r insiwlin.

Mae amrywiaeth i’r coluddion (bowels) yn gallu digwydd gyda cancr y pancreas gan gynnwys dolur rhydd a bod yn rhwym. Un agwedd sy ddim yn cael digon o sylw ydy effaith y diffyg amsugno braster o’r bwyd. Mae’r dyffyg amsugno yma yn achosi steatorrhoea, sef carthion gwelw,seimllyd sy’n drewi ac yn nofio ar wyneb y dwr.

Eglurhad o’r Symptomau

Yn gynnar yn hanes Cancr y Pancreas gall mai ychydig o arwyddion fydd .

Yr arwydd mwyaf amlwg ydy Clefyd Melyn ( y croen a’r llygaid yn melynu) sy’n aml yn cael ei gysylltu gydag dwr tywyll a charthion gwelw a chroen yn cosi. Os ydyw pen y pancreas wedi chwyddo neu’n annaturiol yna bydd dwythell y bustl (bile duct) yn cael ei dagu wrth fynedfa’r pancreas- mae’r rhwystr yma’n golygu bod gormod o fustl (bile) sydd wedyn yn achosi clefyd melyn, dwr tywyll, carthion gwelw a chosi. Dylai’r symptomau ddiflannu unwaith i’r rhwystr gael ei glirio neu trwy lawdriniaeth neu osod stent.

Os ydy’r cancr yn rhwystro pibell y pancreas ( pancreatic duct) bydd yn arwain at dreulio gwael, carthion meddal a cholli pwysa. Trwy glirio’r rhwystr neu gymryd tabledi pancreatic enzyme gall hyn gael ei wella. Steatorrhoea - ydy’r term meddygol am garthion meddal,gwelw,seimllyd a drewllyd sy’n arnofio - sy’n digwydd pan nad ydy’r pancreas yn creu hylif treulio i’r perfedd ac yn methu derbyn y braster o’r perfedd.

Mae Colli Pwysa yn gyffredin oherwydd y trafferth gyda treulio’r bwyd, metaboledd siwgr, dim awydd bwyd ac effaith y cancr ei hun.

Gall Clefgyd Siwgr gael ei achosi oherwydd nad ydy’r pancreas yn gweithio’n iawn. Golyga hyn golli pwysa, blinder, syched, golwg yn niwlog, mwy o urine a theimlo’n chwil. Gall fod clefyd siwgr ar rai cleifion cyn datblygu’r cancr neu ddod i’r amlwg yn fuan ar ol y diagnosis neu ar ol llawdriniaeth.

Mae Poen hefyd yn gyffredin mewn achosion o gancr y pancreas unwaith mae’r tyfiant yn ddigon mawr i bwyso ar organnau eraill neu ar yr asgwrn cefn neu’r nerfau. Ond dim ond tua hanner y cleifion sy’n dioddef poen ar adeg y diagnosis ac mae poen yn fwy cyffredin mewn cancr i gorff a chynffon y pancreas. Mae cleifion yn ei ddisgrifio fel screwdriver yn gwthio i mewn. Mae’r boen yn waeth wrth orwedd ac yn well wrth eistedd i fyny neu bwyso ymlaen. Gall ddechrau o gwmpas y stumog a symud at y cefn. Gall fod yn waeth ar ol bwyta. Gall cleifion hefyd gael bol dolurus neu boenus os ydy’r afu, y pancreas neu’r gall bladder wedi’i heintio neu chwyddo. Gyda afu neu gall bladder wedi chwyddo bydd y boen ar yr ochr dde .

Pan fo’r pancreas wedi’i heintio (e.e. acute pancreatitis) gall hyn achosi poen . Ceir hyn fel arfer yng nghanol neu ran ucha’r bol ac yn aml mae poen yn y cefn hefyd. Mae rhai cleifion gyda cancr y pancreas hefyd yn dioddef o pancreatitis ai oherwydd clefyd yn y pancreas neu fel canlyniad i archwiliad meddygol fel ERCP. Gall presenoldeb pancreatitis gymhlethu diagnosis am ei fod yn cuddio’r cancr mewn delweddau meddygol.

Gall teimlo cyfog gwag neu gyfogi fod yn ganlyniad i nifer o bethau- rhwystr yn y bile-duct, ac felly’n creu clefyd melyn neu oherwydd pancreas wedi’i heintio. Gall newid yn y cemegau yn y corff oherwydd y rhain wneud ichi deimlo’n sal. Os bydd y duodenum yn cael ei rwystro gan gancr neu glefyd gall hyn atal bwyd rhag mynd trwodd ac achosi taflyd i fyny.

Gall rai cleifion ddatblygu tymheredd uchel ( fever) a dechrau crynu a theimlo’n oer er nad ydy’n oer.Gall hyn fod yn sgil-effaith rhwystr yn y bile-duct ( clefyd melyn) neu pancreas wedi’i heintio.

Gall cancr yr endocrin hefyd achosi symtomau sy’n cynhyrchu gormod o hormonau, ac fe ddisgrifir rhain ar y dudualen ar fathau o gancr y pancreas.

Cyswllt rhwng Clefyd Siwgr a Chancr y Pancreas

Mae’r cyswllt gyda clefyd siwgr sydyn yn cael ei gefnogi gan astudiaeth (cyfnodolyn AWST 2005 yr American Gastroenterological Association (AGA) Gastroenterology) sy’n dangos fod cleifion canol-oed gyda chlefyd siwgr sydyn yn fwy tebygol o ddatblygu cancr y pancreas o fewn 3 mlynedd o gael diagnosis am glefyd y siwgr na’r boblogaeth gyffredin. Yn ol yr astudiaeth mae 1 o bob 20 sy’n 50 oed neu fwy a sydd newydd gael clefyd siwgr yn fwy tebygol o ddatblygu cancr y pancreas – perygl sy’n wyth gwaith mwy nag i’r bobologaeth gyffredin

Er fod yr astudiaeth yn dangos fod bobol hyn a llai nag 1 y cant o siawns mai cancr y pancreas sy’n achosi’r clefyd siwgr mae nhw’n dal i gael eu ystried grwp perygl-uchel ar gyfer datblygu’r cancr.Yn ol yr adroddiad mae rhwng 55 a 65% o bobol gyda cancr y pancreas yn dioddef hefyd o glefyd siwgr a gorsiwgredd (hyperglycemia). Ond er mwyn i’r ffigyrau yma fod o ddefnydd ar gyfer sgrinio cleifion yn gyffredinol mae angen i’r ymchwilwyr ddarganfod y gwahaniaeth rhwng glefyd siwgr sy’n cael ei achosi gan gancr y pancreas a chlefyd siwgr math 2.

Ond mae adroddiadau am hyperglycemia a chlefyd siwgr mewn cleifion gyda cancr y pancreas yn amrywio rhwng 5% i 80%. Mae hyn yn debygol oherwydd fod y clefyd siwgr a’r hyperglycemia heb eu darganfod, er fod symtomau gan y cleifion ( colli pwysau, blinder,sychedig, golwg yn niwlog, mwy o ddwr a theimlo’n chwil). Yn ol Diabetes UK mae 1 o bob 4 achos o glefyd y siwgr yn Lloegr heb ei ddarganfod

Darllen Pellach

Do Early Symptoms of Pancreatic Cancer Exist that Can Allow an Earlier Diagnosis? 2001, Gullo et al, Pancreas, Vol22, No 2, pp210-213.

Pancreatic cancer: clinical presentation, pitfalls and early clues.DiMagno EP, 1999 Ann Oncol;10 Suppl 4:140-2.

Signs and symptoms of pancreatic cancer: a population-based case-control study in the San Francisco Bay area. Holly EA, Chaliha I, Bracci PM, Gautam M. 2004 Clin Gastroenterol Hepatol. Jun;2(6):510-7.